Technegau adeiladu pridd - Earth building techniques
Thu 02 Feb
|Bwyd Bendigedig Port - Incredible Edible
Cob, eco-friciau, teiars - Cob, ecobricks, tyres


Time & Location
02 Feb 2023, 10:30 GMT
Bwyd Bendigedig Port - Incredible Edible, Porthmadog LL49 9HX, UK
About the event
(English below - course delivered in English)
Bydd y gweithdy hwn yn gyfuniad o theori a sesiynau ymarferol, a bydd yn eich dysgu sut i wneud cymysgedd clom da, amrywiol dechnegau gweithio gyda chlom ac adeiladu gyda theiars, pridd ac eco-friciau. Gwisgwch ddillad yr ydych yn fodlon eu baeddu, a dewch a welingtons.
Cynhelir y digwyddiad hwn gan Lizzie Wynn, sy’n ddarlithydd ar ymweliad yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen. Mae ganddi ddegawdau o brofiad adeiladu gyda deunyddiau naturiol ac mae hi’n gweld mai’r ffordd gynaliadwy ymlaen ym maes pensaernïaeth yw ailddefnyddio deunyddiau. Mae ymchwil ei Doethuriaeth, yn Ysgol Bensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, yn ymdrin ag adeiladu gyda deunyddiau gwastraff, yn canolbwyntio ar blastig a theiars.
Bydd y cwrs hwn yn gweddu i bobl o bob oedran sy’n dymuno dysgu mwy am weithio gyda deunyddiau naturiol a deunyddiau gwastraff.
Sicrhewch eich lle heddiw, £40 y diwrnod
With a mixture of theory…